2 Kings 18

Heseceia, brenin Jwda

(2 Cronicl 29:1,2; 31:1)

1Daeth Heseceia fab Ahas yn frenin ar Jwda yn ystod trydedd flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin Israel. 2Dau ddeg pum mlwydd oed oedd Heseceia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Abeia
18:2 Hebraeg,  Abi, cf. 2 Cronicl 29:1
, merch Sechareia.
3Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r Arglwydd. 4Dyma fe'n cael gwared â'r allorau lleol, malu'r colofnau cysegredig a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. A dyma fe hefyd yn dryllio'r sarff bres oedd Moses wedi gwneud, am fod pobl Israel yn llosgi arogldarth iddi a'i galw'n Nechwshtan.
18:4 Nechwshtan gw. Numeri 21:8,9. Roedd  Nechwshtan yn llysenw oedd yn swnio'n debyg i'r geiriau Hebraeg am "neidr bres".
5Roedd Heseceia'n trystio'r Arglwydd, Duw Israel. Fuodd yna ddim brenin tebyg iddo yn Jwda, o'i flaen nac ar ei ôl. 6Roedd yn hollol ffyddlon i'r Arglwydd ac yn cadw'r gorchmynion roddodd yr Arglwydd i Moses. 7Roedd yr Arglwydd gydag e, ac roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e'n ei wneud. Gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria
18:7 brenin Asyria Senacherib oedd hwn o bosib – brenin Asyria o 705 i 681 CC
a gwrthod ei wasanaethu.
8A concrodd wlad y Philistiaid yn llwyr – o'r pentrefi lleiaf i'r trefi caerog mawr. Roedd yn rheoli'r wlad yr holl ffordd i dref Gasa a'r ardaloedd o'i chwmpas.

9Yn ystod pedwaredd flwyddyn Heseceia fel brenin (a seithfed flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin ar Israel) daeth Shalmaneser, brenin Asyria, ac ymosod ar Samaria. Buodd yn gwarchae arni 10am bron ddwy flynedd
18:10 bron ddwy flynedd Hebraeg, “tair blynedd”, sy'n cyfrif yn y ffordd Hebreig. Gall olygu dim ond rhan fach o'r flwyddyn gyntaf a rhan fach o'r drydedd flwyddyn.
cyn llwyddo i'w choncro hi. Felly cafodd Samaria ei choncro yn ystod chweched flwyddyn Heseceia fel brenin, a nawfed blwyddyn Hoshea yn frenin ar Israel,
11a dyma frenin Asyria
18:11 brenin Asyria Sargon II, olynydd Shalmaneser. Gw y nodyn yn 17:6.
yn cymryd pobl Israel yn gaethion i Asyria. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan Afon Chabor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media.
12Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel heb wrando ar Arglwydd eu Duw. Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw, ac wedi diystyru'r gorchmynion roedd ei was Moses wedi eu rhoi iddyn nhw.

Asyria yn ymosod ar Jwda, a bygwth Jerwsalem

(2 Cronicl 32:1-19; Eseia 36:1-22)

13Pan oedd Heseceia wedi bod yn frenin am bron un deg pedair o flynyddoedd, dyma Senacherib, brenin Asyria, yn ymosod ar drefi amddiffynnol Jwda, a'u dal nhw. 14A dyma Heseceia, brenin Jwda, yn anfon y neges yma at frenin Asyria, oedd yn Lachish: “Dw i wedi bod ar fai. Os gwnei di droi'n ôl, gwna i dalu faint bynnag wyt ti'n ei ofyn.” A dyma frenin Asyria yn rhoi dirwy o naw mil cilogram o arian a naw cant cilogram o aur i Heseceia, brenin Jwda. 15Felly dyma Heseceia'n rhoi'r holl arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas i Asyria. 16Dyna pryd wnaeth e stripio'r aur oedd e wedi ei roi ar ddrysau'r deml a'u fframiau, i dalu brenin Asyria.

17Er hynny dyma frenin Asyria yn anfon ei brif swyddog milwrol, ei brif gynghorydd, a phrif swyddog ei balas o Lachish at y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, gyda byddin enfawr. Dyma nhw'n cyrraedd Jerwsalem a mynd i sefyll wrth sianel ddŵr y gronfa uchaf, sydd ar y ffordd i Faes y Pannwr. 18Yna dyma nhw'n galw ar y brenin. Ac aeth Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, allan i'w cyfarfod, gyda Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd.

19Dyma brif swyddog Assyria yn dweud wrthyn nhw am roi'r neges yma i Heseceia: “Dyma mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria yn ei ddweud: ‘Beth sy'n dy wneud di mor hyderus? 20Siarad gwag ydy honni fod gen ti'r strategaeth a'r gallu milwrol angenrheidiol! Pwy wyt ti'n pwyso arno go iawn, dy fod yn beiddio gwrthryfela yn fy erbyn i? 21Ai'r Aifft wyt ti'n ei drystio? Dydy'r ffon fagl yna ddim gwell na brwynen wedi hollti, ac mae'n torri llaw ac yn anafu pwy bynnag sy'n pwyso arni! Dyna sy'n digwydd i bawb sy'n trystio'r Pharo, brenin yr Aifft. f

22“‘Neu ydych chi am ddweud wrtho i eich bod yn trystio'r Arglwydd eich Duw? Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth yr allor yn Jerwsalem maen nhw i addoli? 23Tyrd nawr, beth am drafod telerau gyda fy meistr, brenin Asyria: Betia i di, petawn i'n rhoi dwy fil o geffylau i ti, na fyddai gen ti ddigon o ddynion i'w reidio nhw! 24Felly sut alli di wrthod, hyd yn oed gynnig gan ddirprwy un o weision lleia fy meistr? Dwyt ti ddim yn mynd i fynnu dal ati i drystio'r Aifft am gerbydau a marchogion siawns? 25A beth bynnag, wyt ti'n meddwl fy mod i wedi martsio yn erbyn y wlad yma i'w dinistrio hi heb i'r Arglwydd fy helpu i? Yr Arglwydd ei hun ddwedodd wrtho i: “Dos i ymladd yn erbyn y wlad yna a'i dinistrio hi!”’”

26Dyma Eliacim fab Chilceia, Shefna, a Ioach yn dweud wrth y prif swyddog, “Plîs siarada yn Aramaeg hefo dy weision; dŷn ni'n deall yr iaith honno. Paid siarad hefo ni yn Hebraeg yng nghlyw y bobl sydd ar y waliau.” 27Ond dyma'r prif swyddog yn ateb, “Ydych chi'n meddwl mai atoch chi a'ch meistr yn unig mae fy meistr i wedi f'anfon i ddweud hyn? Na, mae'r neges i bawb sydd ar y waliau hefyd. Byddan nhw, fel chithau, yn gorfod bwyta eu cachu ac yfed eu piso eu hunain.”

28Yna dyma'r prif swyddog yn camu ymlaen, ac yn gweiddi'n uchel yn Hebraeg, “Gwrandwch beth mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria, yn ei ddweud! 29Peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo chi, achos fydd e ddim yn gallu'ch achub chi. 30A peidiwch gadael iddo eich cael chi i drystio'r Arglwydd, a dweud wrthoch chi, ‘Bydd yr Arglwydd yn ein hachub ni. Fydd y ddinas yma ddim yn syrthio i ddwylo brenin Asyria!’ 31Peidiwch gwrando arno! Dyma mae brenin Asyria'n ei ddweud: ‘Derbyniwch y telerau dw i'n eu cynnig; dewch allan ata i, a bydd pob un ohonoch chi'n cael bwyta o'i winwydden a'i goeden ffigys, ac yn cael yfed dŵr o'i ffynnon ei hun. 32Wedyn bydda i'n mynd â chi i wlad debyg i'ch gwlad chi – gwlad o fara a sudd grawnwin, o gaeau ŷd a gwinllannoedd, gwlad o olewydd, olew a mêl. Cewch fyw yno yn lle marw.

“‘Peidiwch gadael i Heseceia eich camarwain chi wrth ddweud, “Bydd yr Arglwydd yn ein hachub ni.”
33Wnaeth duwiau'r gwledydd eraill achub eu tir nhw rhag brenin Asyria? 34Ble oedd duwiau Chamath ac Arpad? Ble oedd duwiau Seffarfaîm, Hena ac Ifa? Wnaethon nhw achub Samaria o'm gafael i? 35Pa un o'r duwiau yma i gyd achubodd eu gwlad o'm gafael i? Felly, sut mae'r Arglwydd yn mynd i achub Jerwsalem o'm gafael i?’” 36Ond roedd pawb yn cadw'n dawel ac yn dweud dim, achos roedd y brenin wedi gorchymyn: “Peidiwch â'i ateb e.”

37A dyma Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd, yn mynd at Heseceia a'u dillad wedi eu rhwygo, a dweud wrtho beth oedd y swyddog o Asyria wedi ei ddweud.

Copyright information for CYM